Llongyfarchiadau enfawr i Miller Harris. Roedd Miller yn rhan o dîm
pêl-fasged cadair olwyn Cymru o dan 14 oed, yn Cwpan y Gwledydd Cartref yn Nottingham ar yr 8fed a 9fed o Awst. Roedd yn gamp arbennig i wisgo’r crys coch a chynrychioli Cymru ar lwyfan mor bwysig – ac i wneud pethau hyd yn oed yn well… enillodd Cymru y gwpan! Am gyflawniad gwych, Miller! Rydym mor falch ohonot ti.