Ar Ddydd Mercher 21ain o Hydref, aeth ein disgyblion Blwyddyn 11, 12 a 13 i Ffair Chwilio am Brifysgolion y DU yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Cawsant gyfle i siarad â phrifysgolion, darparwyr prentisiaethau a cholegau o bob rhan o’r DU. Buont hefyd yn mynychu seminarau ar ddatganiadau personol UCAS, cyllid myfyrwyr a dewis cwrs.