Llongyfarchiadau mawr i garfan rygbi dan-14 Ysgol Gyfun Emlyn am ennill cystadleuaeth rygbi ysgolion Ceredigion. Enillodd y tîm bob gêm yn erbyn Ysgolion Bro Teifi, Bro Pedr, Aberteifi ac, yn y ffeinal, 36-10 yn erbyn Ysgol Henry Richard. Da iawn i fechgyn Blwyddyn 7 hefyd wrth i nifer fawr o fechgyn chwarae yn ei gemau rygbi cyntaf erioed.