Eisteddfod Ysgol Gyfun Emlyn
Eleni eto cafwyd diwrnod yn llawn bwrlwm a chystadlu brwd yn yr eisteddfod flynyddol ar ddechrau mis Mawrth
Croesawom ddau feirniad anrhydeddus atom i ddidoli’r buddugwyr, sef Janet Davies a Lis DenHartog, ac roedd y ddwy yn canmol safon y cystadlu ac yn diolch am ddiwrnod cofiadwy.
Daeth y diwrnod i’w benllanw gyda chadeirio’r beirdd buddugol a chystadleuaeth Côr yr Wyl yn morio’r darn gosod Yfory. Prifardd Cymraeg yr eisteddfod oedd Myfi Ellis-Hedd (Emlyn) am ei cherdd ardderchog ar y testun Tonnau. Meriel Paget (Emlyn hefyd) oedd yn fuddugol am y gadair Saesneg am ei cherdd hithau ar ‘Bravery’.
Dyma’r eisteddfod agosaf erioed o ran marciau terfynol. Dim ond deg marc oedd yn gwahanu’r tai ar ddiwedd yr wyl, ac roedd y cyfan yn troi ar y côr buddugol.
Yn y diwedd Emlyn enillodd y cystadlu gwaith cartref, Gwynionydd enillodd y cystadlu llwyfan, ond Iscoed, o drwch blewyn, enillodd yr ŵyl gyfan. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd rhan ac a gefnogodd yr eisteddfod.