A dyma ni Eisteddfod Ysgol Gyfun Emlyn 2017!! Roedd y neuadd yn edrych yn hyfryd iawn gyda lliwiau’r tai- coch, melyn a gwyrdd. Roedd pawb yn awyddus iawn i fynd ar y llwyfan. Roedd y dydd yn llwyddiannus a chyffrous iawn ac fe gafodd pawb hwyl a sbri!
Roedd yna lawer o gystadlaethau i gymryd rhan ynddo fel adrodd unigol Saesneg a Chymraeg, canu unigol, parti canu, cydadrodd, sgets a llawer fwy. Chwarae teg roedd pawb yn arbennig! Roedd y neuadd yn llawn cerddoriaeth brydferth yn ystod y dydd.
Roedd pawb wedi mwynhau’r sbri a hwyl gan y disgyblion!!
Dywedodd Aimee Blwyddyn 7 “Fe wnaeth bawb cystadlu yn arbennig o dda”. Coen Cadwell, daeth yn ail yn gystadleuaeth y gadair a dywedodd “roedd y diwrnod yn grêt a chafodd pawb hwyl a sbri”.
Adroddiad gan:
Cerys Maher
Carys Evans
Aimee Whitton