Castell Henllys
Ar ddydd Gwener y 23ain o Dachwedd, teithiodd 56 o ddisgyblion blwyddyn 7 ynghyd a Staff yr Adran Gymraeg a Mr. R. Evans i Fryngaer Oes Haearn, Castell Henllys yn Sir Benfro. Cafwyd diwrnod cyfan yn llawn gweithdai yn dysgu am hanes bywyd yn yr Oes Haearn ynghyd a sut i greu wal yn defnyddio ‘clom’; bywyd yn yr efail ac wrth gwrs cafwyd sesiwn o baentio gwynebau â phaent glas!
Mi fydd y disgyblion nawr yn trosglwyddo’r holl wybodaeth â ddysgwyd yn ystod y dydd i greu taflen wybodaeth neu ffilm yn Gymraeg.
Mor arbennig oedd gweld pawb yn ymuno yn y gweithgareddau ac yn rhoi o’i gorau ym mhob agwedd ar y dydd.
Recommended Posts