Pupil starting dates: Thursday 3rd September: Year 7 and Year 12 —– Friday 4th September: Year 7, 12 and 13 —– Monday 7th September: All pupils
Hedfanwyd Ysgol Gyfun Emlyn gyda'r sioe "Bye Bye Birdie" | | Ysgol Gyfun Emlyn

Taflwch arno eich siaced lledr, symydwch eich cluniau a byddwch yn barod i *SGRECHIAN*, oherwydd mae Ysgol Gyfun Emlyn yn cymryd eich llaw ac yn eich daflu i rhywle pell i ffwrdd. Rhywle lle bydd criwiau o plant yn sgrechan fel gwrachod ac yn rhedeg trwy’r strydoedd, lle mae unrhyw un dros tri deg mlwydd oed yn hynafol, a lle mae’r rhan fwyaf o ysmygwyr yn un deg pedwar. Ac enw’r lle hyn! America maestrefol yn yr 1960au!

BBB poster

Pan mae seren y byd cerddoriaeth a duw bob merch (a rhan fwyaf o’r bechgyn), Conrad Birdie yn cael ei gorfodi i fynd i’r fyddin, mae ei hyffoddwr Albert Peterson, gyda’i ysgrifennydd a chariad Rose Alvarez, yn ddyfeisio un syniad arall i helpu talu ffioedd coleg Albert. Bydd Conrad yn rhoi “Un Gusan Olaf” i un o’i filoedd o addolwr fel anrheg hywl fawr. A’r fech lwcus yw – Kim MacAffee. Wrth gwrs, yr eiliad mae’r eilun yn camu mewn i Sweet Apple, tref Kim, mae anarchiaeth yn cychwyn.

ezgif.com-optimize-v1

Bydd perthynas Albert a Rosie yn goroesi’r trip (a mam Albert)? Bydd y plant byth yn dod drosto eu obsesiwn gyda Conrad? Bydd y cusan yn digwydd o gwbl, os bydd rhieni’r dref gyda unrhyw beth i wneud gyda’r peth? Dewch i darganfod yr atebion i’r cwestiynnau yma a mwy yn sioe YGE, “Bye Bye Birdie” – y sioe “roc a rol” gwreiddiol!

IMAGE FOR PAPER

Yn dilyn sioe andros o lwyddianus blwyddyn dwethaf “How To Succeed in Business Without Really Trying”, mae pawb yn yr adran Ddrama a Cerddoriaeth wedi bod yn gweithio’n hynod o galed i gwnued sioe leni yn well eto! Felly ymunwch gyda ni am nos o ddawniso diddorol, caneuon creadigol a deialog ddoniol.

Bydd y sioe yn cael ei gynal ar y 20fed, 21ain a’r 22ain o Hydref. Mae ticedi ar gael o swyddfa’r ysgol, neu os nad ydy hyna’n cyfleus, ffoniwch yr ysgol ar 01239 710 447.

Gobeithiwn gweld chi yna!

ARGYMHELLIR