-
Grant Amddifadedd Disgyblion
Datganiad PDG Ysgol Gyfun Emlyn
Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).
Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC. Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:
• nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
• cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
• monitro a gwerthuso effaith adnoddau
Yn 2014-15 rhoddwyd i Ysgol Gyfun Emlyn ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £71,400
Yn Ysgol Gyfun Emlyn mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:
• Mireinio dysgu ac addysgu drwy ddarparu rhaglen gefnogaeth mewn llythrennedd a rhifedd
• Darparu rhaglenni ymyrryd a chefnogaeth a chanddynt yr effaith fwayf, ac sy’n gynaliadwy. Mae rhain yn cynnwys cymorth hyfforddwr dysgu; ymyrraeth llythrennedd a rhifedd yng Nghyfnod Allweddol 3; ac ymyrraeth mewn Mathemateg, Saesneg a Chymraeg yng Nghyfnod Allweddol 4; gwersi hwb TGAU; dyddiau sgiliau arholiad, a chlybiau gwaith cartref ôl-ysgol.
• Gweithredu a defnyddio systemau olrhain data er mwyn adnabod anghenion disgyblion, ymyrraethau, i dargedu a monitro effaith.
• Gwella presenoldeb grwpiau targed gan weithio gyda’r Awdurdod Lleol ar strategaethau sy’n hyrwyddo presenoldeb i ddisgyblion
• Cefnogi disgyblion a’u teuluoedd gan ddarparu pecynnau cymorth bugeiliol; dosbarthiadau llythrennedd a rhifedd i rieni, a diwrnodau profi prifysgol.
Mae ein cynllun manwl sy’n cynnwys manylion mewn perthynas â sut rydym yn gwario’r grant ar gael oddiwrth yr ysgol ar gais.