-
Leithoedd Tramor Modern
Leithoedd Tramor Modern
Fel yr adran Ieithoedd Tramor Modern yn Ysgol Gyfun Emlyn, anelwn at wella dysgu iaith dramor a pharatoi’r disgyblion i sgwrsio mewn iaith wahanol i’w hiaith eu hunain mewn byd sy’n cyson grebachu.
Nodau:
- Meithrin mewn disgyblion gariad at ieithoedd a dealltwriaeth o’u pwysigrwydd yn y byd heddiw.
- Cyflawni ymdeimlad o gyflawniad trwy ddysgu wedi’i saernïo yn ogystal â gwersi sy’n hygyrch ac yn atyniadol i’r holl ddisgyblion.
- Creu goddefgarwch a dealltwriaeth trwy well gwybodaeth o ddiwylliannau a chymdeithasau eraill.
- Darparu cymhwyster academaidd da a fydd yn eu cynorthwyo yn eu dyfodol.
Bydd pob disgybl yn astudio’r Ffrangeg o Flwyddyn 7 tan ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 (Bl 9). Ar y pwynt hwn, bydd y disgyblion yn dewis a hoffen nhw barhau hyd at safon TGAU ai peidio. Ein gobaith ni yw y bydd astudio’n cynorthwyo dealltwriaeth o’r ffordd y mae ieithoedd yn gweithio ac yn helpu meithrin cariad at ddysgu ieithoedd. Cynigir y pwnc hyd at Safon Uwch hefyd.
Mae dau aelod o staff amser llawn yn yr adran, sef Mrs. E. Ward (Pennaeth Adran) a Miss. F. Edwards. Mae’r ddau aelod staff yn addysgu ar hyd yr ystod oedrannau a gallu. Yn ogystal, cyflogir cynorthwyydd iaith dramor yn yr ysgol, sy’n rhoi i’r holl ddisgyblion gyfle i ymarfer gyda siaradwr brodorol.
Mae’r adran yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddarparu teithiau i Ffrainc lle gall dysgwyr ymarfer yr iaith yn ei chynefin.
Blwyddyn 7
Yn ystod y cwrs Ffrangeg ym Mlwyddyn 7, byddwch yn dysgu:
- Dweud eich enw a chyfarch rhywun.
- Gofyn beth yw rhywbeth a dweud beth sydd gennych neu beth nad oes gennych.
- Dweud yr wyddor a sillafu’ch enw.
- Dweud beth yw’ch oedran chi a gofyn oedran rhywun.
- Dweud pryd mae’ch pen-blwydd.
- Dweud pa liw yw rhywbeth.
- Dweud ble rydych chi’n byw a pha genedl ydych chi.
- Trafod eich brodyr a’ch chwiorydd.
- Trafod eich anifeiliaid anwes.
- Trafod eich pryd a gwedd.
- Sut i fynd i siopa a phrynu bwydydd a hefyd sut i archebu mewn caffi neu fwyty.
- Byddwch yn dysgu am Baris.
- Prynu byrbrydau a darllen bwydlen.
Blwyddyn 8
Yn ystod y cwrs Ffrangeg ym Mlwyddyn 8, byddwch yn dysgu:
- Trafod eich tŷ a’r hyn sydd o’i amgylch.
- Disgrifio’ch tŷ a’ch ystafell wely.
- Dweud yr amser.
- Trafod eich arfer dyddiol.
- Trafod eich amserlen.
- Trafod pynciau’r ysgol.
- Trafod eich diwrnod ysgol.
- Trafod chwaraeon a beth rydych chi’n ei hoffi ac yn ei gasáu.
- Dweud beth rydych chi’n ei wneud yn ystod eich amser rhydd.
- Trafod gweithgareddau amser rhydd eraill.
- Trafod beth rydych chi’n ei wneud ar y penwythnos.
- Trafod y tywydd.
- Trafod eich tref.
- Gofyn am a rhoi cyfarwyddiadau o gwmpas y dref.
Blwyddyn 9
Yn ystod y cwrs Ffrangeg ym Mlwyddyn 9, byddwch yn dysgu:
- Trafod rhannau o’r corff ac afiechydon.
- Sut i drafod eich cynlluniau i’r dyfodol.
- Disgrifio’ch tref a rhoi ei manteision a’i hanfanteision.
- Trafod beth rydych chi wedi’i wneud a ble fuoch chi ar y penwythnos.
- Trafod ble fuoch chi ar wyliau a beth wnaethoch chi.
- Disgrifio’r hyn rydych chi’n ei wisgo a beth rydych chi’n hoffi gwisgo.
TGAU: Ffrangeg / Sbaeneg
Bydd y disgyblion sy’n astudio TGAU mewn Iaith Dramor Fodern yn cael eu hasesu ym mhedwar sgil Gwrando, Darllen, Siarad ac Ysgrifennu.
ASESIAD DAN REOLAETH
Siarad: 30% o’r TGAU
Ysgrifennu: 30% o’r TGAU
ARHOLIADAU
Gwrando: 20% o’r TGAU
Ysgrifennu: 20% o’r TGAU
Bydd disgyblion yn datblygu eu sgiliau trwy gyd-destunau:
•Bywyd Personol a Chymdeithasol
•Y Byd Ehangach
•Y Gymuned Leol
•Byd Gwaith