-
Gwyddoniaeth CA3 a CA4
Newyddion Gwyddoniaeth
-
Science WorkshopYear 7 pupils recently attended a science and energy event held in Carmarthen by the Royal Society of Chemistry. During the visit they took part in a wide range of activities involving energy changes. Pupils thoroughly enjoyed the event, which displayed many day to day uses of science.Read More
-
Biology FieldworkBiology Fieldwork The Year 13 Biology class have just returned from yet another successful field course on the rocky shores of Dale, Pembrokeshire. During the three day residential course pupils studied seashore ecology and learned various sampling techniques, including height profiling and transecting. Pupils were also able to visit Skomer Island, taking the 15 minute boat...Read More
-
Year 7 Science trip: Aberystwyth University Science FairOn 17 March 2016, the Year 7 pupils visited the Aberystwyth University Science Fair. This event is held every year as part of British Science Week, and this year the theme was “Everyone’s a scientist.” The pupils were given hands-on access to a wide range of interactive exhibits that covered the various scientific disciplines,...Read More
-
A’ Level Physics Trip to CERNDuring October half term, a group of sixth-form pupils travelled to Geneva as part of their A-level Physics studies. The highlight of the trip was a visit to CERN, the European Organization for Nuclear Research, where, using the world’s largest and most complex scientific instruments, physicists and engineers are probing the fundamental structure of...Read More
Cyfnod Allweddol 3

Mae Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 3 wedi’i seilio’n llac ar Gwrs Gwyddoniaeth Longman a elwir yn ARCHWILIO GWYDDONIAETH (EXPLORING SCIENCE).
Mae’r disgyblion yn astudio hanfodion Bioleg, Cemeg a Ffiseg mewn modiwlau ar wahân ynghyd ag Ymchwiliadau Gwyddonol, Sgiliau Meddwl a gwaith ar Graffau. Ar hyn o bryd, ceir Arholiadau Diwedd y Flwyddyn ym Mlynyddoedd 7, 8 a 9. Prif fyrdwn CA3 yw bod disgyblion yn mwynhau Gwyddoniaeth gan ddefnyddio ystod o arbrofion a gweithgareddau ymarferol. Lle bo’n bosibl, defnyddia’r myfyrwyr TGCh yn eu gwaith.

Ym Mlwyddyn 7, bydd y disgyblion yn astudio:

Nodweddion Bywyd a Chelloedd, Atgynhyrchu Planhigion ac Anifeiliaid, Toddiannau a Thechnegau Gwahanu, Solidau, Hylifau a Nwyon, Grymoedd ac Ynni.
Fel rheol, addysgir Blwyddyn 7 mewn dosbarthiadau gallu cymysg, gan un athro gwyddoniaeth.
Ym Mlwyddyn 8, bydd y disgyblion yn astudio:

Addasu ac Amrywio, Amgylcheddau ac Effeithiau Dyn, Deiet a Thraul, Newidiadau Cemegol, Elfennau a Chyfansoddion, Ymlosgi, Cylchedau Trydanol, Magneteg, Golau a Sain.
Caiff Blwyddyn 8 ei ffrydio i ddosbarthiadau Uwch ac Is, ar sail marciau Blwyddyn 7. Fel rheol, cânt eu haddysgu gan un athro.
Lawrlwytho Pwyntiau Allweddol.pdf
Ym Mlwyddyn 9, bydd y disgyblion yn astudio:

Prosesau Planhigion, Prosesau a Microbau’r Corff Dynol, Adweithiau Metelau, Gweithredoedd Asidau, Pwysedd, y Sbectrwm Electromagnetig, Grymoedd ac Ynni. Rhoddir Blwyddyn 9 mewn setiau ar sail gallu, o’r brig i’r gwaelod ar sail marciau Blwyddyn 8, gydag athrawon ar wahân ar gyfer Bioleg, Cemeg a Ffiseg.
Cyfnod Allweddol 4

Dilynwn feysydd llafur CBAC yn Ysgol Gyfun Emlyn, gydag ystod o gyrsiau yn dibynnu ar y set a’u gallu.
Setiau 1 a 2
Dilynant TGAU ar wahân mewn Gwyddoniaeth a chyflawnant 3 TGAU, un yr un mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg. Mae gan bob pwnc dri arholiad modiwl un awr o hyd, y cyntaf ym mis Ionawr Blwyddyn 10, y nesaf ym mis Ionawr Blwyddyn 11 ac yn olaf, papur ym mis Mai/Mehefin Blwyddyn 11.
Mae gan bob pwnc un darn o waith cwrs, a gynhelir yn unigol mewn gwersi gwyddoniaeth Blwyddyn 11.
Setiau 3 a 4
Dilynant TGAU mewn Gwyddoniaeth ym Mlwyddyn 10 ac yna Gwyddoniaeth Ychwanegol ym Mlwyddyn 11, gan gyflawni dau TGAU dros ddwy flynedd.
Mae gan bob cwrs agweddau ar Fioleg, Cemeg a Ffiseg, gydag arholiadau allanol un awr o hyd yr un ym mis Mai/Mehefin y flwyddyn honno. Ceir un darn o waith cwrs, a gynhelir yn ystod gwersi, ym mhob blwyddyn.
O fis Medi 2016 ymlaen, bydd setiau 3 a 4 yn dechrau ar Faes Llafur Dwyradd Newydd CBAC ac yn cyflawni dau TGAU ar ddiwedd blwyddyn 11. Nid yw’r meysydd llafur a’r trefniadau asesu wedi’u cwblhau eto ond rhagwelir y bydd arholiadau modiwl ar ddiwedd Blwyddyn 10 ac 11 ym mhob maes pwnc a gwaith cwrs ym Mlwyddyn 11 YN UNIG.
Dim ond dau lyfr adolygu penodol i CBAC sydd ar y farchnad ac fe’ch cynghorwn i brynu unrhyw un ohonynt (sylwch mai dim ond Prifysgol Bangor sy’n cynhyrchu canllawiau ar gyfer y 3edd uned ym mlwyddyn 11).
![]() Llyfr Blwyddyn 10, sy’n ddefnyddiol ar gyfer yr arholiadau ym mis Ionawr 2016 |
![]() Llyfr Blwyddyn 11, sy’n ddefnyddiol ar gyfer yr arholiadau ym mis Ionawr 2017. |
Hodder Education sy’n cynhyrchu’r ddau lyfr isod, un ar gyfer blwyddyn 10 (hyd at fis Ionawr 2016) ac un ar gyfer hanner blwyddyn 11 (hyd at fis Ionawr 2017), mae’r ddau ar gael ar Amazon am lai na £10 yr un.
Yn ogystal, mae Prifysgol Bangor yn cynhyrchu set o ganllawiau gwych (3 yr un ar gyfer pob pwnc) sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim o’u gwefan. Neu, gellir prynu llungopi am 50c y canllaw o ystafell lungopïo’r ysgol.
Mae’r adran Wyddoniaeth yn cynhyrchu myrdd o ddeunyddiau adolygu, hen bapurau ac atebion hefyd – mae’r rhain ar gael am ddim yn y rhan “DOGFENNAU A RENNIR” ar unrhyw gyfrifiadur yn yr ysgol, yn y ffolder “TGAU mewn Gwyddoniaeth”. Anogir y disgyblion i ddod â chof bach USB a lawrlwytho’r rhain i gyd (a Chanllawiau Bangor) i’w cof bach.
Yn ogystal, bydd y disgyblion yn cael rhestr o bodlediadau addas y gallant eu gwylio ar y wefan GCSEpod.
Caiff dosbarthiadau eu rhoi mewn setiau gallu, seiliedig ar farciau CA3 a 4. Mae dwy haen arholiad i bob papur, a gall y myfyrwyr gymysgu’r rhain yn dibynnu ar eu cryfderau:
Uwch A* – C
Sylfaen C – G
Ar y cyfan, mae’r set uchaf yn sefyll yr haen uchaf wrth i’r dosbarthiadau eraill sefyll y papurau haen Sylfaen.
Mae gan bob dosbarth athro Bioleg, Cemeg a Ffiseg ar wahân.