Search

 

Ar wythnos  yr 16eg- 20fed o Hydref fe ddathlodd ddisgyblion Ysgol Gyfun Emlyn Shwmae Su’mae!

Llwyddodd ddisgyblion ym Mlynyddoedd 7, 8 a 9 i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i ddathlu’r digwyddiad pwysig yma!  Mae pobl ar draws Cymru yn mwynhau defnyddio’r Iaith Gymraeg a chroesawu pobl gyda Shwmae Su’mae.

Ymdrechodd gannoedd o ddisgyblion a staff ysgol i siarad Cymraeg a chychwyn pob sgwrs yn y Gymraeg, a phrofodd hyn yn llwyddiannus ar draws yr ysgol.

Beth mae pobl yn gwneud trwy’r wythnos i ddathlu?:

– Cael gweithgareddau hwyl a siarad Cymraeg

– Mae busnesau yn cael coffi yn y bore i godi ymwybyddiaeth

– Mae busnesau lleol yn cael digwyddiadau i gael pawb ymuno a chyfathrebu yn Gymraeg.

Felly beth ddigwyddodd yn Ysgol Gyfun Emlyn?

Trwy’r wythnos roedd cystadlaethau Shwmae Su’mae- Cystadleuaeth creu Logo newydd, dylunio cacen Shwmae, Cwis popeth am Gymru ac yn fwy pwysig  Siaradwr Cymraeg yr Wythnos!

Enillwyr y gweithgareddau:

Dyma’r enillwyr yr wythnos, ac mae rhaid canmol yr holl ymdrechion a’r ymdrech rhoddodd bawb mewn i’r cystadlaethau. Da iawn wir.

Sian Hatch: Logo Shwmae Su’mae

Aimee Whitton: Dylunio Cacen Shwmae

 

Dafydd Peckham, Ella Hewitt-Fisher, Sophie Davies, Kai Sudbury a Megan Kirkham: Cwis Grwp

Sophie Davies: Siaradwr Cymraeg yr Wythnos.